Mae’r Ŵyl Ffilmiau Un Ffilm yn ddigwyddiad treigl cyffrous a ddaw i chi gan TAPE, gyda chymorth Rhaglen Gweddnewid Anabledd Dysgu Gogledd Cymru a Film Hub Wales.
Bydd pob ‘Diwrnod’ o’r ŵyl yn digwydd dros benwythnos hir, lle gall pobl fwynhau’r brif ffilm ynghyd â llwyth o gynnwys wedi’i deilwra’n arbennig a fydd yn cysylltu â’r themâu a’r syniadau o fewn y ffilm honno.
Mae’r ŵyl wedi’i chynhyrchu ar y cyd gan bobl sy’n rhan o brosiect Clwb Cyfryngau TAPE. Dilynwch TAPE ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y diweddaraf am yr ŵyl ac i gymryd rhan yn y sesiynau holi ac ateb byw.
Sometimes, Always, Never
Y Prif Gynnig
Ar gael 10am Dydd Sadwrn 3 Ebrill – 7pm ddydd Sul 4 Ebrill. Password: $cr@bble21!
Mae Sometimes Always Never yn ffilm ddrama-gomedi o 2018 a gyfarwyddwyd gan Carl Hunter ac a ysgrifennwyd gan Frank Cottrell Boyce.
Mae Alan yn deiliwr smart sy’n ymddwyn yn siarp fel ei ddillad. Mae wedi treulio blynyddoedd yn chwilio’n ddiflino am ei fab Michael a gollodd ei dymer ac ymadael oherwydd gêm o Scrabble. Rhaid i Alan fynd i edrych ar gorff marw, mae ei deulu wedi ei rwygo’n ddarnau, a rhaid iddo drwsio’i berthynas gyda’i fab ieuengaf Peter. Rhaid iddo hefyd ddatrys dirgelwch y chwaraewr ar-lein y mae’n credu mai Michael ydyw, er mwyn symud ymlaen o’r diwedd ac uno ei deulu.
More Than Time
Creodd Carl Hunter hwn yn ystod y cyfnod clo cyntaf a’i ffilmio ar ei iPhone; mae’n cyflwyno darlun o Lerpwl diffaith, ac yn trosleisio’r cyfan mae negeseuon peiriant ateb a adawyd gan bobl ar draws y ddinas.
Backstage Lockdown Film
Ar ôl iddyn nhw weld ffilm fer Carl, More Than Time, aeth aelodau Clwb Ieuenctid Backstage yn TAPE ati i wneud eu fersiwn eu hunain o’r ffilm lle maen nhw, ynghyd â phobl o brosiectau eraill TAPE, yn esbonio sut brofiad oedd y cyfnod clo iddyn nhw a’r hyn maen nhw’n edrych ymlaen ato wrth i ni ddod allan ohono.
Cyfweliad gyda Carl
Mae Clwb Cyfryngau TAPE yn cyflwyno cyfweliad newydd sbon gyda’r cyfarwyddwr Carl Hunter, lle mae’n trafod ei ffilmiau a’i fywyd creadigol.
Missing People
Ein partneriaid yn yr ŵyl yw Missing People. Yma rydym yn cyflwyno ffilm fer am eu gwaith a bydd Paul Joseph, Pennaeth Llinellau Cymorth, yn ymuno â ni ar gyfer y sesiwn Holi ac Ateb byw ar Facebook Ddydd Llun 29 Mawrth am 6pm.
https://www.facebook.com/TAPECommunityMusicandFilm
Mae’r ffilmiau ar gael am gyfnod cyfyngedig o benwythnos, a byddent yn cael eu dangos ar dudalen Vimeo TAPE. Bydd cynnwys y cyfweliad yn parhau’n hygyrch am byth ar wefan TAPE gyda dolenni at y mannau lle gallwch fynd i weld y ffilmiau, os oes modd.
Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI, wedi’i wneud yn bosibl gan y Loteri Cenedlaethol
TAPE Community Music and Film
Tel: 01492 512109 Charity number: 1151513
TAPE Community Arts Centre,
Berthes Rd,
Old Colwyn.
LL29 9SD