Skip to content

Rydym yn Recriwtio | We’re Hiring

Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
a Gweithrediadau – y Sector Celfyddydau ac Elusennau

Lleoliad: Hen Golwyn (gyda hyblygrwydd i weithio gartref)
Contract: Parhaol | Oriau: Amser llawn (37.5) – ystyrir rhannu swydd
Cyflog Cychwynnol: £35,000

Ynglŷn â TAPE
Mae TAPE yn sefydliad celfyddydau cymunedol gwobrwyog sy’n darparu prosiectau cynhwysol ym meysydd ffilm, animeiddio, cerddoriaeth a chyfryngau digidol. Rydym yn grymuso pobl i rannu straeon a datblygu sgiliau creadigol drwy raglenni hygyrch a chydweithredol.

Y Rôl
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Datblygu Busnes a Gweithrediadau i arwain y gwaith o weinyddu’r celfyddydau, llywodraethu elusennau a datblygu strategol. Byddwch yn rheoli cyllid, Adnoddau Dynol a chydymffurfiaeth, tra’n sbarduno codi arian, ceisiadau am grantiau a strategaethau cynhyrchu incwm.


Prif Gyfrifoldebau:

  • Codi Arian ac Ysgrifennu Ceisiadau Grant – canfod cyfleoedd, ysgrifennu ceisiadau, rheoli cysylltiadau â chyllidwyr
  • Rheolaeth Ariannol – cyllidebau, llif arian, adrodd
  • Adnoddau Dynol a Rheoli Pobl – recriwtio, datblygu staff
  • Llywodraethu a Chydymffurfio – cyfraith elusennau, GDPR, diogelu
  • Gweithrediadau a Chynaliadwyedd – datblygu polisi, rheoli lleoliadau
  • Cynrychioli TAPE mewn digwyddiadau celfyddydol, rhwydweithio a chyfarfodydd partneriaeth

Sgiliau a Phrofiad Hanfodol

  • 3 blynedd a mwy mewn swyddi uwch reoli, gweinyddu’r celfyddydau neu weithrediadau elusennol
  • Llwyddiant amlwg o ran codi arian, gwneud ceisiadau am grantiau a chynhyrchu incwm
  • Sgiliau cadarn o ran rheoli arian a chyllidebu
  • Sgiliau cyfathrebu, TG a threfnu rhagorol
  • Ymrwymiad i gynhwysiant, hygyrchedd ac ymarfer creadigol

Dymunol: Gwybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru, cyllid BFI, cydymffurfiaeth elusennau, a sgiliau Cymraeg.


Pam Ymuno â Ni?

  • Arwain sefydliad creadigol a chynhwysol
  • Opsiynau gweithio hyblyg
  • Cael effaith wirioneddol yn y sector celfyddydau ac elusennau

Sut i Wneud Cais
Anfonwch:

  • Eich CV
  • Llythyr eglurhaol neu ddarn o fideo/sain byr yn egluro eich profiad a’ch diddordeb
  • Manylion cyswllt dau ganolwr

Terfyn amser: Dydd Llun 23 Chwefror
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 9 Mawth (TBC)
Dyddiad cychwyn: I’w gytuno

Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi, anfonwch e-bost at administration@tapemusicandfilm.co.uk

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector celfyddydau, y cyfryngau a’r sector elusennol.

Business Development &
Operations Director – Arts & Charity Sector

Location: Old Colwyn (with home-working flexibility)
Contract: Permanent | Hours: Full-time (37.5) – job share considered
Starting Salary: £35,000

About TAPE
TAPE is an award-winning community arts organisation delivering inclusive projects in film, animation, music, and digital media. We empower people to share stories and develop creative skills through accessible, collaborative programmes.

The Role
We’re looking for a Business Development & Operations Director to lead arts administrationcharity governance, and strategic development. You’ll manage financeHR, and compliance, while driving fundraisinggrant applications, and income generation strategies.


Key Responsibilities

  • Fundraising & Grant Writing – identify opportunities, write bids, manage funder relationships
  • Financial Management – budgets, cash flow, reporting
  • HR & People Management – recruitment, staff development
  • Governance & Compliance – charity law, GDPR, safeguarding
  • Operations & Sustainability – policy development, venue management
  • Represent TAPE at arts eventsnetworking, and partnership meetings

Essential Skills & Experience

  • 3+ years in senior managementarts administration, or charity operations
  • Proven success in fundraisinggrant applications, and income generation
  • Strong financial management and budgeting skills
  • Excellent communicationIT skills, and organisational ability
  • Commitment to inclusionaccessibility, and creative practice

Desirable: Knowledge of Arts Council WalesBFI fundingcharity compliance, and Welsh language skills.


Why Join Us?

  • Lead a creative, inclusive organisation
  • Flexible working options
  • Make a real impact in the arts and charity sector

How to Apply
Send:

  • Your CV
  • A cover letter or short video/audio explaining your experience and interest
  • Contact details for two referees

Deadline: Monday 23rd February
Interviews: Week beginning 9th March (TBC)
Start date: To be agreed

For questions or support: administration@tapemusicandfilm.co.uk

We welcome applicants from all backgrounds and encourage applications from underrepresented groups in arts, media, and charity sectors.


Creative Inclusion
Since 2008

Tel: 01492 512109 
Charity number: 1151513


Berthes Rd, Old Colwyn
Colwyn Bay LL29 9SD