Skip to content

Sion

IONAWR 2022 DIWEDDARIAD COVID ( Clwciwch i weld y datganiad llawn )

Approaching Shadows

TAPE’s Feature available on all streaming services now.


Y Pethau a Wnaw

Yma yn TAPE, creadigedd yw ein byd. Credwn fod creadigedd yn gallu ysbrydoli a gweddnewid cymunedau. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth mawr o gyfleoedd creadigol i grwpiau ac unigolion mewn mannau diogel, cynhwysol a chefnogol.  
Mae TAPE yn elusen sy’n agored i bawb. Mae ein tîm a’n hadnoddau’n cefnogi pawb i gael profiadau ymarferol a chyfleoedd mewn meysydd fel gwneud ffilmiau, cynhyrchu sain, cerddoriaeth, ffotograffeg, realiti rhithwir, dylunio, ysgrifennu creadigol, podlediadau a llawer mwy.  
Mae ein hamserlen yn cynnwys sesiynau gweithdy wythnosol fel Clwb Ieuenctid Backstage, yr Ystafell Awduron, Ghostbuskers a’r Clwb Animeiddio, yn ogystal â digwyddiadau arbennig, sgrinio mewn sinema, prosiectau pwrpasol, hyfforddiant a llawer iawn mwy. Mae’r gweithgareddau hyn yn digwydd yng Nghanolfan Celfyddydau Cymunedol TAPE yn Hen Golwyn, ac fel prosiectau allgymorth drwy Ogledd Cymru gyfan.
Mae TAPE yn cefnogi dysgu achrededig ac mae’n Ganolfan Gymeradwy i Agored. 
I weld esiamplau o rai o’r pethau y mae TAPE wedi eu darparu, ewch i’r tudalennau ‘Amdanom ni’ ac ‘FideosLluniau’. 


Our Spaces

Recording Studio TAPE

Stiwdio Recordio

Creative Media Suite TAPE

Ystafelloedd Cyfryngau Creadigol

Exhibition Space TAPE

Lle Arddangos

Stage at TAPE

Llwyfan

Community Cinema TAPE

Sinema Gymunedol

Conference And Event Space TAPE

Ystafelloedd Cynadleddau a Digwyddiadau

Neuadd

Recording Studio TAPE

Lle Ymarfer

_

Cefnogir TAPE Community Music and Film gan:

_


Rhoi’r cyfleoedd gorau i bobl drwy’r celfyddydau a’r cyfryngau creadigol.

NEWYDDION A DIWEDDARIADAU

Be sy Mlaen… Ar-lein

Gwledd greadigol drwy gydol yr wythnos.

Gallwch ymuno â band, creu eich animeiddiad eich hun, bod yn greadigol, archwilio’r dreftadaeth leol, dod â’r sinema i’ch cartref. Mae rhywbeth bach i bawb yn ein sesiynau wythnosol.

Cliciwch ar y llun i fynd i’n tudalen ‘Be sy Mlaen‘ i gael rhagor o wybodaeth.

​Byddwn yn cyhoeddi llawer mwy o sesiynau dros yr wythnosau nesaf, felly dewch yn ôl i edrych bob hyn a hyn. 

Approaching Shadows feature film

Approaching Shadows yn Dod Cyn Hir!

Approaching Shadows yw ail ffilm nodwedd TAPE Community Music and Film.
Yn ystod penwythnos eu priodas aur, mae Edward a Violet Knights yn cael eu gwahanu’n greulon, gan sbarduno gwraig i fynd ar drywydd ei gŵr trwy fyd cynyddol frawychus.
Mae’r ffilm wedi’i gwneud trwy fodel cynhyrchu cynhwysol sydd wedi cefnogi dros 250 o bobl ar draws y prosiect, trwy weithdai, digwyddiadau a chefnogaeth bwrpasol.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn y DU yn Sinema’r BFI Southbank yn Llundain fel rhan o Ŵyl Busting the Bias y BFI ym mis Rhagfyr 2021 ac mae Bohemia Media wedi’i phrynu i’w dosbarthu yn y DU ac Iwerddon.
Edrychwch ar dudalen y blog am dystebau gan y cast a’r criw.
Dolen trelar: https://vimeo.com/648547510

BRITISH WINTERS
British Winters feature film from TAPE.

British Winters

Yn ogystal â Vimeo, mae’r ffilm ar gael i’w ffrydio a’i phrynu hefyd ar Amazon Video.

Cliciwch yma i’w gwylio: https://amzn.to/2T1PERb