AMDANOM NI.
Mae TAPE yn hynod o falch o’r ffaith ei fod yn agored i bawb ac yn cynnwys pawb. Ers 2008 mae wedi bod yn cynnig cyfleoedd cynhwysol a chefnogol o safon uchel lle mae’r bobl yn arwain y gwaith.
O sesiynau blasu un awr a sgrinio ffilmiau, i gontractau masnachol a chynhyrchu ffilmiau nodwedd, mae darpariaeth TAPE yn rhoi’r cyfle i bobl archwilio a datblygu eu creadigedd.
Mae darpariaeth TAPE yn cefnogi unigolion a grwpiau, gan weithio gyda phobl o bob oedran a phob lefel o brofiad, a sicrhau eu bod nhw’n cael rhan ganolog yn y broses greadigol. O bobl sy’n rhoi cynnig ar fod yn greadigol am y tro cyntaf i bobl raddedig a phroffesiynol, gall yr elusen gynnig hyfforddiant, cymorth a chyfleoedd.
Mae’r graffigyn hwn yn rhoi crynodeb o waith TAPE dros gyfnod o 12 mis:
Creative Inclusion
Since 2008
Tel: 01492 512109
Charity number: 1151513
Berthes Rd, Old Colwyn
Colwyn Bay LL29 9SD