Skip to content
Diwrnod 1         Diwrnod 2         Diwrnod 3         Diwrnod 4
Gŵyl Ffilmiau Un Ffilm

Mae’r Ŵyl Ffilmiau Un Ffilm yn ddigwyddiad treigl cyffrous a ddaw i chi gan TAPE, gyda chymorth Rhaglen Gweddnewid Anabledd Dysgu Gogledd CymruFilm Hub Wales.

Bydd pob ‘Diwrnod’ o’r ŵyl yn digwydd dros benwythnos hir, lle gall pobl fwynhau’r brif ffilm ynghyd â llwyth o gynnwys wedi’i deilwra’n arbennig a fydd yn cysylltu â’r themâu a’r syniadau o fewn y ffilm honno.

Mae’r ŵyl wedi’i chynhyrchu ar y cyd gan bobl sy’n rhan o brosiect Clwb Cyfryngau TAPE. Dilynwch TAPE ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y diweddaraf am yr ŵyl ac i gymryd rhan yn y sesiynau holi ac ateb byw.

Gŵyl Ffilmiau Un-Ffilm

Mae’r ŵyl yn cychwyn ar Ddydd Gwener 26 Chwefror am hanner dydd a bydd y ffilmiau ar gael tan Ddydd Sul 28 Chwefror am 10pm


Sanctuary
Y Prif Gynnig

Mae Larry a Sophie mewn cariad. Maen nhw’n perswadio Tom i drefnu ystafell iddyn nhw mewn gwesty i gael prynhawn o garu ac maen nhw’n edrych ymlaen at ddod i nabod ei gilydd, fel cyplau di-ri o’u blaenau. Ond dydy Larry a Sophie ddim yn gwpwl cyffredin; mae gan y ddau anableddau deallusol. Mae gan Larry Down’s ac mae gan Sophie epilepsi a Tom yw eu gofalwr. Mewn byd sy’n gwthio i’w cadw nhw ar wahân, a fydd cariad yn ennill y dydd?


Len Collin
Cyfweliad gyda Chyfarwyddwr Sanctuary

Cafodd y cyfweliad hynod ddiddorol hwn gyda chyfarwyddwr Sanctuary, Len Collin, ei ffilmio dros Zoom gan Glwb Cyfryngau TAPE. Yn hwn mae Len Collin yn rhannu hanesion o du ôl y camera am y ffilm ac am ei fywyd mewn ffilmiau a theledu.


Luv2MeetU
Ffilm hyrwyddo

Ffilm hyrwyddo fer gan ein partneriaid ar gyfer Diwrnod 1 yr ŵyl – mae Luv2MeetU yn asiantaeth ganfod ffrindiau a chariadon i bobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth.


Lansiad The Screen Presence Podcast
Mewn partneriaeth â BFI

Mewn partneriaeth â BFI

Cafodd The Screen Presence Podcast ei sefydlu i rannu arferion gorau ac esiamplau o waith cadarnhaol am y ffordd y mae cynhwysiant ac amrywiaeth yn cael eu cefnogi yn y diwydiannau sgrin.

Mae pob pennod sydd â thema yn cyflwyno sgwrs gyda phobl sy’n gweithio mewn ffordd wahanol i gefnogi mwy o gynrychiolaeth a chyfle.

Daw’r podlediad hwn gan TAPE Community Music and Film sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Cynhwysiad yn BFI.

Cliciwch yma i wrando a thanysgrifio.

The Screen Presence Podcast

Altered Thinking
Y dangosiad cyntaf yng Nghymru

Ffilm ddogfen o hyd ffilm nodwedd gan y Cyfarwyddwr Len Collin. Cafodd ei ffilmio dros nifer o flynyddoedd, ond cafodd ei chwblhau yn ystod y cyfnod clo. Mae’r ffilm yn edrych ar y ffordd mae anabledd yn cael ei gynrychioli ar ein sgriniau teledu a sinemâu gyda’r pwyslais ar anabledd deallusol. Mae’n codi cwestiynau am gynhwysiad ac amrywiaeth yn y diwydiant ac yn edrych ar wneud Sanctuary yn fodel ar gyfer y dyfodol. Difyr a hygyrch.


HOLI AC ATEB BYW
Gyda Len Collin, Luv2MeetU a thîm yr ŵyl

Bydd y digwyddiad hwn yn ffrydio’n fyw ar Ddydd Llun 1 Mawrth am 6pm. Bydd wedi ei gyflwyno drwy Streamyard / FB Live.

https://twitter.com/tapeartscentre

https://www.facebook.com/TAPECommunityMusicandFilm

Mae’r ffilmiau ar gael am gyfnod cyfyngedig o benwythnos, a byddent yn cael eu dangos ar dudalen Vimeo TAPE. Bydd cynnwys y cyfweliad yn parhau’n hygyrch am byth ar wefan TAPE gyda dolenni at y mannau lle gallwch fynd i weld y ffilmiau, os oes modd.


Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI, wedi’i wneud yn bosibl gan y Loteri Cenedlaethol


Gŵyl Ffilmiau Un Ffilm



TAPE Community Music and Film

Tel: 01492 512109 Charity number: 1151513

TAPE Community Arts Centre,
Berthes Rd,
Old Colwyn.
LL29 9SD