Skip to content
Diwrnod 1         Diwrnod 2         Diwrnod 3         Diwrnod 4
Gŵyl Ffilmiau Un Ffilm Diwrnod 3

Mae’r Ŵyl Ffilmiau Un Ffilm yn ddigwyddiad treigl cyffrous a ddaw i chi gan TAPE, gyda chymorth Rhaglen Gweddnewid Anabledd Dysgu Gogledd CymruFilm Hub Wales.

Bydd pob ‘Diwrnod’ o’r ŵyl yn digwydd dros benwythnos hir, lle gall pobl fwynhau’r brif ffilm ynghyd â llwyth o gynnwys wedi’i deilwra’n arbennig a fydd yn cysylltu â’r themâu a’r syniadau o fewn y ffilm honno.

Mae’r ŵyl wedi’i chynhyrchu ar y cyd gan bobl sy’n rhan o brosiect Clwb Cyfryngau TAPE. Dilynwch TAPE ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y diweddaraf am yr ŵyl ac i gymryd rhan yn y sesiynau holi ac ateb byw.

Gŵyl Ffilmiau Un-Ffilm

My Feral Heart
Y Prif Gynnig

https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m000t86w/my-feral-heart


Cyfweliad gyda Duncan Paveling


Gwefan Sima Gonsai

https://www.simagonsaifilms.com/screendance

Ein thema ar gyfer diwrnod 3 o Gwyl Ffilmiau Un Ffilm yw Syndrom Down ac rydym yn gyffrous i arddangos y gwaith o Sima Gonsai, gyfarwyddwr sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae gan Sima ddull creadigol iawn i annog pobl i ddawnsio ac mae ei ffilmiau yn anhygoel! Dilynwch y ddolen i wefan Sima i wylio’r ffilmiau; We Are Here, One Fine Day a Freefall.


Ein partneriad: Cymdeithas Syndrom Down Gogledd Cymru

https://downssyndromeassociation.wordpress.com/category/wales/


Fydd ein ateb ac holi byw yn digwydd am 6pm, Dydd Mawrth y 4ydd o Mai

https://www.facebook.com/TAPECommunityMusicandFilm


Mae’r ffilmiau ar gael am gyfnod cyfyngedig o benwythnos, a byddent yn cael eu dangos ar dudalen Vimeo TAPE. Bydd cynnwys y cyfweliad yn parhau’n hygyrch am byth ar wefan TAPE gyda dolenni at y mannau lle gallwch fynd i weld y ffilmiau, os oes modd.


Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI, wedi’i wneud yn bosibl gan y Loteri Cenedlaethol


Gŵyl Ffilmiau Un Ffilm



Creative Inclusion
Since 2008

Tel: 01492 512109 
Charity number: 1151513


Berthes Rd, Old Colwyn
Colwyn Bay LL29 9SD