Skip to content
Diwrnod 1         Diwrnod 2         Diwrnod 3         Diwrnod 4
Gŵyl Ffilmiau Un Ffilm Diwrnod 4

Mae’r Ŵyl Ffilmiau Un Ffilm yn ddigwyddiad treigl cyffrous a ddaw i chi gan TAPE, gyda chymorth Rhaglen Gweddnewid Anabledd Dysgu Gogledd CymruFilm Hub Wales.

Bydd pob ‘Diwrnod’ o’r ŵyl yn digwydd dros benwythnos hir, lle gall pobl fwynhau’r brif ffilm ynghyd â llwyth o gynnwys wedi’i deilwra’n arbennig a fydd yn cysylltu â’r themâu a’r syniadau o fewn y ffilm honno.

Mae’r ŵyl wedi’i chynhyrchu ar y cyd gan bobl sy’n rhan o brosiect Clwb Cyfryngau TAPE. Dilynwch TAPE ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y diweddaraf am yr ŵyl ac i gymryd rhan yn y sesiynau holi ac ateb byw.

Gŵyl Ffilmiau Un-Ffilm

Heavy Load
Y Prif Gynnig

Cyfarwyddwyd gan Jerry Rothwell. Blwyddyn ym mywyd y band pync Heavy Load sy’n cynnwys rhai cerddorion ag anableddau dysgu.


Interview with Paul and Jerry

Mae hwn yn gyfweliad â’r gwneuthurwr ffilmiau dogfennol, Jerry Rothwell a Paul Richards, cyfarwyddwr yr ymgyrch Stay Up Late. Maen nhw’n trafod gwneud eu ffilm, Heavy Load, a sut ysbrydolodd honno’r ymgyrch Stay up Late.


Gig Buddies (partner)

Gig Buddies yw ein partner ar gyfer diwrnod#4 yr Ŵyl Ffilmiau Un Ffilm. Sefydliad yw Gig Buddies sy’n ceisio cyfateb pobl sydd â’r un diddordebau â’i gilydd i gael amser da.


Ghostbuskers at the Proms

Ffilm fer yn dangos y prosiect cerdd cymunedol, Ghostbuskers, yn perfformio yn y BBC Proms in the Park ym Mae Colwyn.


Ghostbuskers: Road to Eden

Ffilm fer hyfryd am daith i’r Eden Project yng Nghernyw, lle chwaraeodd Ghostbuskers dair sioe yn rhan o ŵyl gelfyddydau gymunedol.


Friendship Film

Ffilm fer am gylchoedd o gyfeillgarwch a chymorth.


Mae’r ffilmiau ar gael am gyfnod cyfyngedig o benwythnos, a byddent yn cael eu dangos ar dudalen Vimeo TAPE. Bydd cynnwys y cyfweliad yn parhau’n hygyrch am byth ar wefan TAPE gyda dolenni at y mannau lle gallwch fynd i weld y ffilmiau, os oes modd.


Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI, wedi’i wneud yn bosibl gan y Loteri Cenedlaethol


Gŵyl Ffilmiau Un Ffilm



TAPE Community Music and Film

Tel: 01492 512109 Charity number: 1151513

TAPE Community Arts Centre,
Berthes Rd,
Old Colwyn.
LL29 9SD